Toggle Menu

 

Newyddion

DYDDIAD I'CH DYDDIADUR

imageCynhadledd Cymru’r Gyfraith 2018
Yn Aberystwyth
Dydd Gwener, 12 Hydref 2018

Mwy o fanylion i ddilyn


AWST 2018

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym Mis Awst 2018. Eleni, traddodwyd Darlith Flynyddol Cymdeithas y Gyfraith gan yr Athro Elwen Evans QC , Pennaeth Coleg y Gyfraith Prifysgol Abertawe. Mae’r Athro Evans yn aelod o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a trafododd waith diweddar y comisiwn yn ei darlith. Trafododd y pwerau datganoledig yn ogystal â diffyg defnydd o’r iaith Gymraeg o fewn y llysoedd. Holodd y cwestiwn a ddylai cyfiawnder gael ei ddatganoli i Gymru.


AWST 2018

Ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am weithdrefn y Tribiwnlys Cyflogaeth fel eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl yn eich gwrandawiad? - Cliciwch yma


MEHEFIN 2018

Hoffai Sefydliad Cymru’r Gyfraith estyn eu llongyfarchion i’r Fonesig Nicola Davies ar ei hapwyntiad fel Yr Arglwyddes Ustus Apêl, y Gymraes gyntaf i’w phenodi.


MAWRTH 2018

Y Bil Deddfwriaeth ( Cymru ) Drafft

Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ar y Bil Deddfwriaeth ( Cymru ) Drafft . Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn gosod gorfodaeth ar y gweinidogion a’r Cwnsler Cyffredinol i sicrhau bod cyfreithiau yn fwy dealladwy a bod darpariaeth penodol yn ei le ynglyn â dehongliad o Ddeddfwriaeth Gymreig. Y nod i Gymru ydy symud tuag at awdurdodaeth penodol, wedi’w godeiddio gyda deddfwriaeth yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd dealladwy a’n hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg ym myd y gyfraith.


RHAGFYR 2017

COMISIWN AR GYFIAWNDER YNG NGHYMRU

Mae Prif Weinidog Cymru wedi sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Lord Thomas o Gwmgiedd fydd yn cadeirio’r comisiwn wedi iddo drosglwyddo awenau ei swydd fel Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr. Bydd aelodau eraill y comisiwn yn cynnwys, Simon Davies, Yr Athro Elwen Evans QC, Dr Nerys Llewelyn Jones, Juliet Lyon CBE, Sarah Payne CBE, Yr Athro Rick Rawlings, Peter Vaughan QPM CStJDl a Sir Wyn Williams.

Diben gwaith y comisiwn bydd cynnal arolwg o’r system gyfiawnder yn Nghymru a gosod gweledigaeth hir dymor i’w ddyfodol er mwyn :
• Sicrhau mynediad gwell at gyfiawnder, lleihau troseddu a hybu ailsefydlu.
• Sicrhau bod y trefniadau awdurdodaethol a’r addysg gyfreithiol yn adlewyrchu’r rhan mae cyfiawnder yn chwarae yn ffyniant a llywodraethu Cymru yn ogystal â’r materion unigryw sy’n bodoli yng Nghymru.
• Annog cryfder a chynaliadwyedd y sector gwasanaeth cyfreithiol yng Nghymru a cryfhau ei gyfraniad i ffyniant Cymru.

Bydd gwaith y Comisiwn yn dechrau ym Mis Rhagfyr a byddant yn casglu yn 2019 gydag adroddiad o’u darganfyddiadau a’u argymhellion.


TACHWEDD 2017

PRO BONO A GWEITHGAREDD CYFEIRIO YN Y TRIBIWNLYS CYFLOGAETH

Mae amryw o fentrau yn weithgar ar hyn o bryd gyda’r gobaith o allu cyfeirio partion sydd heb gynrychiolaeth i fannau lle ceir mynediad at gymorth a chyngor, megis y canlynol :

1) ELIPS – clinig cyngor wedi’w redeg gan wirfoddolwyr proffesiynol yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, sy’n cynnig dadleuwriaeth ar y diwrnod mewn gwrandawiadau a chyngor ad hoc. Mae ELIPS yn gydweithrediad rhwng Cymdeithas y Cyfreithwyr Cyflogaeth, yr Uned Bar Pro Bono, LawWorks, a’r Uned Cynrychiolaeth am Ddim ( FRU ).

2) StreetLaw – cynllun ar y cyd rhwng Prifysgolion lleol a’r BPP a lawnsiwyd ym Mis Tachwedd 2017. Bydd myfyrwyr yn darparu gwybodaeth i bartion sydd heb gynrychiolaeth ynglyn â sut i baratoi yn ogystal a beth i ddisgwyl mewn gwrandawiad; a

3) Taflenni ET ( Canolbarth a De Cymru a Gogledd Cymru ) – Clustnodi cymdeithasau Pro Bono sy’n cynnig cefnogaeth gyfreithiol, bydd hyn ar gael mewn mannau cyhoeddus o fewn ET a bydd y taflenni yn cael eu gyrru i’r partion ar dderbyn yr hawliad.


HYDREF 2017

YMDDEOLIAD YR ARGLWYDD BRIF USTUS

Cynhaliwyd Cinio i nodi ymddeoliad yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd fel Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, cynhelir y cinio gan y Cwnsler Cyffredinol dros Gymru yn Neuadd y Senedd.

Hoffai Cymru’r Gyfraith ddiolch i’r Arglwydd Thomas am y gwaith â ymgymerodd, yn enwedig yn Nghymru, yn ogsytal â chroesawu’r Arglwydd Brif Ustus newydd, Syr Ian Burnett.


AGORIAD Y FLWYDDYN GYFREITHIOL

Ar yr 8fed o Hydref, 2017 cafwyd seremoni Agoriad y Flwyddyn Gyfreithiol yng Nghadeirlan Llandaf, adeilad mawreddog sy’n hanu o’r 12fed ganrif, er iddo gael ei ddiweddaru wedi difrod gan stormydd a rhyfeloedd.

Ymdebyga’r gwasanaeth i’r gwasanaeth sy’n digwydd yn San Steffan, i’r rheiny sydd ynghlwm a gweinyddiaeth y gyfraith. Ymysg y rhai oedd yn bresennol oedd holl aelodau’r farnwriaeth – Barnwyr, Uchel Siryfion, Bargyfreithwyr, Cyfreithwyr a CILEx.

Cafwyd darlleniadau gan yr Arglwydd Brif Ustus Newydd, y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Burnett, Yr Athro Hope, Uwch Siryf Gwynedd a’r Gwir Anrhydeddus Mrs Ustus Nicola Davies , Barnwr Gweinyddol Cymru. Wedi pregeth a draddodir gan Esgob Llandaf, darllenwyd y gweddiau gan Mr Alwyn Ellis, Cadeirydd Mainc Ynadon . Daeth y gwasanaeth i ben wrth ganu’r Anthem Genedlaethol


MEDI 2017

CYNHADLEDD CYMRU'R GYFRAITH

Eleni, digwyddodd y Gynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe, yn y Neuadd Fawr yng Nghampws y Bae ar y 15fed o Fedi 2017. Roedd y Neuadd Fawr yn leoliad delfrydol, gyda golygfeydd godidog o Fae Abertawe.

Roedd 171 o gynrychiolwyr yn y gynhadledd. Roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau llawn yn ogsytal a sesiynau wedi’w rhannu i dri grwp sef Addysg Gyfreithiol ac Ymarferiad, Cyfraith Cyhoeddus ac Hawliau Sifil a Chymdeithasol. Traddodwyd dau o’r pedwar sesiwn ar gyfraith Cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithad ar y pryd.

Yn ystod y torriad cinio, cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i sgwrsio’n anffurfiol gyda’r siaradwyr gwadd a’r gwesteion.

Daeth y gynhadledd i ben gyda derbyniad wedi’w gynnal gan Gymdeithas y Gyfraith . Noddwyd y digwyddiad gan Gymdeithas y Gyfraith, Cylchdaith CILEx Caer a Chymru, a Gwasg Prifysgol Cymru. Cafwyd adborth hynod gadarnhaol gan y gwesteion.


MAWRTH 2017

AGORIAD Y LLYSOEDD BUSNES AC EIDDO YNG NHGYMRU

Ym Mis Mawrth 2017, cyhoeddodd yr Arglwydd Brif Ustus gyflwyniad cychwynnol Llysoedd Busnes ac Eiddo Cymru a Lloegr. Bydd y Llysoedd, a fydd wedi’w lleoli ym Mirmingham, Bryste, Leeds, Manceinion a Cymru yn ogystal â Lloegr , yn darparu un cyfundrefn o lysoedd sy’n arbennigo mewn gwaith busnes ac eiddo. Byddent hwy felly yn cwmpasu’r Adran Siawnsri, y Llys Masnach, y Llys Mercantil a’r Llys Technoleg ac Adeiladwaith i greu cyswllt rhwng y llysoedd yn Llundain a’r rheiny ar draws Cymru a Lloegr er mwyn sichrau bod busnesau rhyngwladol a mentrau mewnol yn cael cefnogaeth gydradd wrth ddatrys anghydfod.

Bydd y Llysoedd Busnes ac Eiddo yn Nghymru yn cael eu hagor yn swyddogol gan yr Arglwydd Brif Ustus ar y 24ain o Orffennaf, 2017 yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd, 2 Stryd y Parc, Caerdydd, CF10 1ET


Barnwyr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol: pwy ydym ni a beth yr ydym ni yn ei wneud?

Mae Barnwyr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol yn ddeiliad swyddi barnwrol, sydd wedi cael eu hapwyntio o bob rhan o’r system llysoedd a thribiwnlys.

Rydym yn gweithio mewn modd gwirfoddol er mwyn ymgysylltu gyda’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu; yn darparu gwybodaeth am y farnwriaeth, y gwaith yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn cael ein penodi. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb i annog gweithwyr cyfreithiol proffesiynol a myfyrwyr y gyfraith i ystyried gyrfa yn y farnwriaeth, gan ganolbwyntio yn benodol ar unigolion sydd yn dod o grwpiau sydd yn cael eu tangynrychioli. Yn olaf, rydym ar gael i gynorthwyo ein cydweithwyr barnwrol a/neu weithredu fel delfrydau ymddwyn ar faterion amrywiaeth/cysylltiadau cymunedol.

Wrth edrych yn allanol o’n swyddogaeth, ein nod yw cynyddu hyder y cyhoedd yn y system gyfreithiol. Gwnawn hyn drwy wella’r ddealltwriaeth a’r wybodaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud a phwy yr ydym; y nod yw dileu unrhyw gamsyniadau am y farnwriaeth.

Wrth rannu eich stori; eich cefndir a sut y cawsoch eich penodi, gallwch godi ymwybyddiaeth fod yna lwybrau niferus at yrfa farnwrol.

Gellir canfod manylion am Farnwyr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol yng Nghymru ar y ddolen ganlynol:

www.judiciary.gov.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal cyfarfod neu ddigwyddiad ac yn dymuno holi ynghylch a chael Barnwr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol yn bresennol, cysylltwch gyda Jacqueline McLean o’r Swyddfa Farnwrol ar:
Jacqueline.McLean@judiciary.gsi.gov.uk

Barnwr Cyflogaeth Sian Davies
Tribiwnlys Cyflogaeth Caerdydd
1 Rhagfyr 2016


Llythyr Cais Cyntaf am Gymorth Plant Cymru - cliciwch yma


Bwrdd Cymru’r Gyfraith yn ymateb i ymgynghoriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Ddiwygiadau Pellach i drefn Adolygiad Barnwrol.

Mae’r Bwrdd wedi ymateb i awgrym y Weinyddiaeth Gyfiawnder y dylai heriau statudol a cheisiadau am adolygiad barnwrol ym maes Cynllunio Gwlad a Thref gael eu trosglwyddo o’r Llys Gweinyddol i Siambr y Tribiwnlys Uwch a fyddai’n arbenigo mewn achosion Cynllunio a Thir. Mae’r Bwrdd wedi pwysleisio:

Er mwyn darllen ymateb y Bwrdd yn llawn, cliciwch yma


Cymru’r Gyfraith yn llongyfarch Syr John Thomas ar gael ei apwyntio’n Arglwydd Prif Ustus

syr john thomasMae Cadeirydd Bwrdd Cymru’r Gyfraith, y Barnwr Milwyn Jarman CF, wedi ysgrifennu at Syr John Thomas i’w longyfarch ar ei apwyntiad yn Arglwydd Prif Ustus Cymru a Lloegr. Roedd Syr John, a gafodd ei fagu yng Nghwmgiedd yn Nghwm Tawe, yn Farnwr Arlywyddol Cymru rhwng 1998 a 2001, ac yn un o’r rhai a symbylodd sefydlu Cynhadledd Cymru’r Gyfraith. Mae ef wedi mynychu’r Gynhadledd yn rheolaidd dros y blynyddoedd ac fe fydd Cynhadledd 2013 yn gyfle iddo esbonio i gynrychiolwyr ei weledigaeth o rôl y farnwriaeth yn y Gymru fodern.


Ymateb Cymru’r Gyfraith i gynlluniau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddiwygio cymorth cyfreithiol troseddol

Mae Bwrdd Sefydliad Cymru’r Gyfraith wedi ymateb i ddogfen ymgynghorol y Weinyddiaeth Gyfiawnder “ Trawsnewid cymorth cyfreithiol: cyflwyno system mwy credadwy ac effeithiol” gan fynegi pryder am bwriad ddiddymu’r elfen o ddewis rhwng cyfreithwyr cymorth cyfreithiol a lleihau nifer y darparwyr cymorth cyfreithiol troseddol yng Nghymru 80%.

Ym marn y Bwrdd fe fyddai’r newidiadau hyn:

Er mwyn darllen ymateb y Bwrdd yn llawn, cliciwch yma