Amcanion Cymru’r Gyfraith yw:
I ddarparu fforwm i drafod a llunio barn ac awgrymiadau er mwyn gweithredu ar faterion sy’n effeithio ar weinyddiaeth cyfiawnder, addysgu ac ymchwilio’r gyfraith, a’r ddarpariaeth o wasanaethau cyfreithiol yng Nghymru / sy’n effeithio ar Gymru.
Pan fo’r Bwrdd yn ei gweld yn addas i wneud hynny, cynnig cynrychiolaeth ar faterion sy’n effeithio swyddogaethau’r Sefydliad tuag at Senedd Cymru, Senedd y DU, Llywodraeth Cymru neu’r DU neu unrhyw gorff cyffelyb arall;
I hybu buddion y gymuned Gyfreithiol yng Nghymru yn ei chyfanrwydd,
I ennyn diddordeb yn y Gyfraith, a’r astudiaeth ohono, fel y bo’n gyfredol i Gymru;
I drefnu Cynhadledd Cymru’r Gyfraith tra pery’r diddordeb a’r diben i wneud hynny, unai yn uniongyrchol neu trwy gorff arall a benodir gan y Bwrdd i’r diben hynny;
I gefnogi mentrau a gynllunnir i gynyddu mynediad i’r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, ac/neu i’r sawl sy’n byw yng Nghymru.