Mae gweinyddiaeth bob dydd Cymru’r Gyfraith yn nwylo’r Pwyllgor Gwaith, a benodwyd gan Fwrdd Sefydliad Cymru’r Gyfraith sy’n cyfarfod o leiaf dwywaith y flwyddyn.
Gellir darllen Cyfansoddiad Cymru’r Gyfraith yma.
Gellir gweld cyfansoddiad presennol y Pwyllgor Gwaith yma.
Mae’r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o’r gymuned gyfreithiol yng Nghymru, gan gynnwys y farnwriaeth, llywodraeth, adrannau cyfreithiol cyhoeddus, cwmnïoedd cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr a’r ysgolion cyfraith. Gellir gweld cyfansoddiad presennol y Bwrdd yma.
O fewn y pwyllgor gwaith, mae Cadeirydd, Trysorydd, Ysgrifennydd a hyd at 5 aelod arall.