Mae Cymru’r Gyfraith yn fforwm unigryw sy’n dod a holl elfennau’r gymuned Gyfreithiol ynghyd yng Nghymru a thu hwnt trwy ymdeimlad o gymrodoriaeth. Gwneir hyn trwy Gynhadledd flynyddol Cymru’r Gyfraith, mentrau i annog disgyblion ysgol sydd ar awydd a’r gallu i fentro ar yrfa o fewn y gyfraith, yn ogystal â llu o ddigwyddiadau arbennig eraill.
Mae’r wefan hon yn egluro sut mae modd i chi gadw’n hysbys am holl ddigwyddiadau Cymru’r Gyfraith, cyfleoedd i gymryd rhan yn un o fentrau Cymru’r Gyfraith, yn ogystal â sut y gweinyddir y Sefydliad.
Ceir tudalennau eraill sy’n disgrifio hanes unigryw’r gyfraith yng Nghymru, ei gyfraniad i’r Gyfraith Gyffredin, yn ogystal â dolenni i gymdeithasau cyfreithiol eraill a’r cyrff a gynrychiolir ar Gyngor Sefydliad Cymru’r Gyfraith.
Yn yr Archif, ceir gasgliad o brif anerchiadau ac areithiau o Gynadleddau Cymru’r Gyfraith a digwyddiadau eraill, ac mae’r rhain wedi eu darlunio ymhellach ar y tudalennau Galeri ac Argymhellion Polisi Cymru’r Gyfraith.
Y mae Cymru’r Gyfraith yn cydnabod cefnogaeth a chymorth y canlynol ynglŷn a’r wefan yma:
Geldards Law Firm
Cylchdaith Cymru a Chaer
Jesus College
Gray's Inn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Amgueddfa Lloyd George
The Law Society