Gellir clymu sefydlu Cymru’r Gyfraith â chread Llywodraeth ddatganoledig Cymru a grëwyd o ganlyniad i’r Ddeddf Llywodraeth i Gymru 1998, yn dilyn refferendwm ar y cynigion o fewn y Papur Gwyn “Llais i Gymru”.
Gellir dyddio’r ymateb a gafwyd gan y gymuned gyfreithiol yng Nghymru nôl i seminar ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1999, a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd a Chylchdaith Cymru a Chaer. Oddeutu’r un cyfnod, daeth sawl cymdeithas gyfreithiol arall i fodolaeth, megis Cyfraith Gyhoeddus Cymru, Cymdeithas Cyfraith Fasnachol Cymru a’r Gymdeithas Hanes Cyfreithiol Cymru.
Gwelodd Gwnsler Cyffredinol cyntaf Cymru, Winston Roddick CB CF, yr angen i ddod a phobl ynghyd o bob cwr o’r byd cyfreithiol yng Nghymru, i drafod heriau ac i wneud yn fawr o’r cyfleoedd a grëwyd gan yr ardrefniant cyfansoddiadol newydd.
Gyda chefnogaeth y Barnwr Llywyddol Arweiniol yng Nghymru ar y pryd, Mr Ustus Thomas (bellach yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd LCJ), sefydlodd y Cwnsler Cyffredinol gorff a fyddai’n dod a’r holl gymuned gyfreithiol yng Nghymru ynghyd er mwyn ymdrochi’n llwyr â’r datblygiad o hunaniaeth gyfreithiol newydd yng Nghymru, ac felly ganed “Cymru’r Gyfraith”.
Yn 2003, cynhaliwyd Cynhadledd Cymru’r Gyfraith am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, digwyddiad sydd wedi ei chynnal yn flynyddol ac sydd bellach yn uchafbwynt y flwyddyn gyfreithiol yng Nghymru.
O bryd i’w gilydd, mae Cymru’r Gyfraith yn trefnu digwyddiadau arbennig sy’n dod a’r holl gymuned gyfreithiol yng Nghymru ynghyd. Enghraifft ddiweddar o hyn yw’r cinio a gynhaliwyd i ddathlu eisteddiad cyntaf y Goruchaf Lys yng Nghymru, yng Nghaerdydd ym Mis Gorffennaf 2019, lle cafwyd ddarlith ar Gyfreithiau Hywel, ym mhresenoldeb cyfreithwyr ifanc, ac Ustusiaid y Goruchaf Lys.
Yn 2020, trefnodd Cymru’r Gyfraith raglen wedi ei ariannu’n llwyr i ddisgyblion blwyddyn 12, “Rhaglen Haf Mynediad i’r Gyfraith” am y tro cyntaf. Bwriad y rhaglen oedd i alluogi dysgwyr oedd a dim cysylltiadau o fewn y maes, na phrofiad ymarferol o’r maes, i gael profi’n llawn beth ydy rôl cyfreithiwr, fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniad goleuedig ynghylch dechrau ar yrfa gyfreithiol.