Cyfieithiad i'w ddod yn fuan..
The Officers (together with any further persons co-opted in accordance with paragraph 16) are to form the Executive Committee of the Foundation and are, subject to any directions which the Board may give, to have full power to conduct the affairs of the Foundation and act on its behalf and in its name.
The Officers may, from time to time, coopt up to a total of five persons, at least two of whom must be members of the Board, to be members of the Executive Committee; such persons are to be members of the Executive Committee (unless they have previously ceased to hold office) until the meeting of the Board at which the term of office of the Chair comes to an end in accordance with paragraph 13.
A co-opted member of the Executive Committee may attend meetings of the Board but may not vote (unless already a member of the Board).
Daw Elisabeth o Aberpennar yng Nghwm Cynon, lle bu’n ddisgybl yn yr Ysgol Gyfun. Gyda chymorth ei hathrawes Ffrangeg yno, derbyniodd le i astudio Ieithoedd Modern a Chanoloesol yng Ngholeg Somerville, Rhydychen – y cyntaf o’i theulu i fynd ymlaen i addysg uwch.
Wedi iddi gwblhau ei chwrs trosi ôl-raddedig yn y Gyfraith, bu Elisabeth yn ymarfer y gyfraith fasnachol a chyflogaeth gyda chwmni Theodore Goddard (Addleshaw Goddard LLP bellach), yn y Ddinas yn Llundain a gyda Osborne Clarke a Lyons Davidson ym Mryste.
Penderfynodd ei bod hi am helpu’r sawl nad oedd yn gallu fforddio ffioedd cyfreithiol, a symudodd Elisabeth i’r Gloucester Law Centre, lle bu’n gweithio’n ddiwyd am bum mlynedd fel yr arbenigwr cyflogaeth.
Dilynodd Elisabeth ei chariad at ieithoedd gan symud i Ffrainc i weithio yn Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg am bum mlynedd, cyn iddi ddychwelyd i Gymru i weithio o fewn Gwasanaeth Cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn nyddiau cynnar datganoli. Dros ugain mlynedd olaf ei gyrfa, daeth Elisabeth yn arbenigwr mewn cyfraith gyfansoddiadol a gweinyddol, gan gynnwys hawliau dynol a chyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Oherwydd yr arbenigedd yma, cafodd Elisabeth ei hapwyntio fel Prif Ymgynghorydd Cyfreithiol i Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) yn 2012.
Yn 2019, penderfynodd Elisabeth ymddeol. Mae hi bellach yn cymryd rhan mewn llu o brosiectau a gwaith gwirfoddol, yn benodol gwaith i ledaenu mynediad i’r proffesiwn cyfreithiol.