Cartref > Hunaniaeth Gyfreithiol Cymru
Etifedd o dreftadaeth gyfreithiol gyfoethog sydd i’w weld yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain bellach.
Am filoedd o flynyddoedd wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, hyd nes uno Cymru a Lloegr yn yr 16g, llywodraethwyd Cymru gyda’i chyfreithiau brodorol unigryw ei hun, a gysylltir yn amal ag enw Hywel Dda, Tywysog yn y 10fed ganrif, a bodolai’r ysgrifau a gynhwysai’r cyfreithiau hynny hyd heddiw.
Gyda chyflwyniad y gyfraith Gyffredin Saesneg dan deyrnasiad y Tuduriaid, etifeddodd Gymru ei llysoedd ei hun, y Sesiwn Fawr, a grëwyd yn narlun y rheiny a sefydlwyd ynghynt i wasanaethu tywysogaethau de a gogledd Cymru gan Edward y Cyntaf, a bery hyd nes 1830.
Trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd cynnydd yn y galw i gydnabod hunaniaeth gyfreithiol Cymru, ac o ganlyniad, gwelwyd deddfau a oedd yn gymwys yng Nghymru yn unig, ymgyrch a sefydliad yr Adran Wladol dros Gymru , ac o’r diwedd, wrth i’r ugeinfed ganrif dynnu at ei therfyn, ardrefniant datganoli a osododd sylfaen i’r Llywodraeth a’r Senedd yn eu ffurf bresennol.