Cartref > Rhaglen Myfyrwyr Haf LEDLET
Yn 2020, ffurfiwyd bartneriaeth rhwng yr elusen Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund Davies (LEDLET), a Chymru’r Gyfraith, i greu menter gyffrous newydd at fudd disgyblion ysgol Blwyddyn 12.
Fydd dysgwyr sy’n byw yng Nghymru (neu sydd â chysylltiadau cryfion â Chymru) yn cael eu dewis i fynychu’r Rhaglen Haf breswyl yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf neu raglen cyfatebol LEDLET yn Llundain.
Fe fydd yr ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn cael y cyfle i gysgodi cyfreithwyr, gweithredwyr cyfreithiol siartredig a bargyfreithwyr; arsylwi achos llys, a’r cyfle i siarad â barnwr; mynychu darlithoedd a gweithdai ar astudio’r gyfraith, gyrfaoedd yn y gyfraith, yn ogystal â’r cyfle i fireinio sgiliau cyfreithiol.
Drwy nawdd Cymru’r Gyfraith a LEDLET, fe fydd y Rhaglen yn rhad ac am ddim i’r disgyblion – gan gynnwys costau teithio a chostau byw trwy gydol yr wythnos. Yn ogystal â’r costau cynwysedig, mae posib ceisio am grantiau pellach i gyfrannu at gostau dillad addas, neu gostau gofalu am berthynas sydd fel arfer yng ngofal yr ymgeisydd llwyddiannus.
Bwriad y Rhaglen ydy i roi cyfleoedd i ddisgyblion Blwyddyn 12, na fyddai â’r mynediad i gyfleodd cyfreithiol cyffelyb fel arall. Yn sgil hynny, fe fydd Cymru’r Gyfraith a LEDLET yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan ddisgyblion sy’n derbyn cinio ysgol am ddim, sydd o ardaloedd sy’n ariannol ddifreintiedig, sydd ag anabledd, sydd mewn gofal gan y wlad, neu’r sawl sy’n gofal am eraill.
Ond, mae cyfle i unrhyw un sy’n cyflawni’r meini prawf isod i ymgeisio:
- Byw yng Nghymru (neu â chysylltiadau cryfion â Chymru)
- O dan 18 oed ar 13eg o Orffennaf 2020, a
- Dim cysylltiadau teuluol a’r proffesiwn cyfreithiol.
Bydd manylion rhaglen pob blwyddyn a sut i wneud cais yn ymddangos yn adran Newyddion gwefan Cymru'r Gyfraith ac ar wefan LEDLET Lord Edmund Davies Legal Education Trust (LEDLET).