Rhwng 2017 a 2019, ffurfiwyd comisiwn a gadeiriwyd gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, i gynnal archwiliad manwl o’r system gyfiawnder yng Nghymru, a hynny mewn dyfnder ac ehangder nas gwelwyd o’r blaen. Mae adroddiad y Comisiwn, yr ymchwil a gynhaliwyd sy’n cyd-fynd a’r gwaith, a’r gosodiadau a gafwyd, yn llunio corff nodedig o wybodaeth sydd o bwysigrwydd pellgyrhaeddol i’r astudiaeth o gyfiawnder yng Nghymru. Cafodd wefan y Comisiwn ei harchifio, a gellir ei fyned trwy: