Fe fu Carolyn Kirby yn gyfreithiwr yn Abertawe am ugain mlynedd. Yn 1999, cafodd ei hethol i Gyngor Cymdeithas y Cyfreithwyr, gan gynrychioli canolbarth a dwyrain Cymru, ac yn yr un flwyddyn daeth yn llywydd ar Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl yng Nghymru. Yn 2002, cafodd hi ei hethol yn llywydd Cymdeithas Cyfreithiwr Cymru a Lloegr, y ddynes gyntaf i wneud hynny.
Mae ganddi hi ddoethuriaethau anrhydeddus o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol Dwyrain Lloegr.
Yn ogystal â’i gwaith ym myd y Gyfraith, mae hi yn gadeirydd ar elusen gancr yn Ne Cymru, y buodd hi sefydlu yn 1993. Yn 2016, derbyniodd hi OBE am ei gwasanaethau i gyfiawnder a gofal cancr. Mae Caroline Kirby hefyd yn arweinydd addoli lleyg, yn ogystal â’n gofrestrydd cyfreithiol i Archddiacon Gŵyr, a’n Farnwr yn Llys Disgyblu’r Eglwys yng Nghymru a Llys y Dalaith.