Roedd Charles Evans Hughes yn fab i Weinidog Bedyddwyr Cymraeg, a fudodd i’r UDA. Hughes oedd yr 11eg Prif Ustus i Oruchaf Lys yr UDA. Hughes hefyd oedd 36ain Llywodraethwr Efrog Newydd yn 1906, yn Ustus Cyswllt y Goruchaf Lys o 1910-1916, enwebai arlywyddol y Blaid Weriniaethol yn yr etholiad arlywyddol yn 1916, yn ogystal â’r 44fed Ysgrifennydd Gwladol yr UDA, 1920-1925. Cyn iddo gael ei benodi’n Brif Ustus, roedd yn un o gyfreithwyr mwyaf blaenllaw’r UDA.
Yn 1930, cafodd Hughes ei benodi’n Brif Ustus gan yr Arlywydd Herbert Hoover. Ynghyd a’r Ustus Cysylltiol Owen Roberts, roedd llais Hughes yn cynnig y bleidlais fwyaf gogwyddol ar y fainc, gan i’w farn ogwyddo yn aml rhwng adain rhyddfrydol ac adain geidwadol y Llys, yn enwedig mewn achosion yn ymwneud a’r “New Deal” yn yr 1930au
Er ei fod yn falch o’i linach Gymreig, a’n noddwr brwd o achos Cymry Gogledd America, roedd Charles yn ystyried ei hun yn Americanwr i’r carn, a gwrthododd gynnig o radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ddwywaith.