Barnwr yn Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru. Yn frenhinwr blaenllaw, carcharwyd yn ystod y Rhyfel Cartref gan iddo dreulio’i amser yn casglu a chysodi’r adroddiadau Cyfraith Gyffredin cyntaf, rhagflaenydd y llyfr achosion modern. Yn 1650 pan oedd yn un o’r sawl brenhinwr yr ystyriodd Senedd y Gweddill eu dienyddio, dywedodd pe byddai’n mynd ar y grocbren, fe fyddai’n “crogi â’r Beibl dan y naill gesail, a’r Magna Carta dan y llall”.