Addysgwyd David Lloyd Jones yn yr Ysgol Ramadeg i Fechgyn, Pontypridd. Roedd yn gymrawd yng Ngholeg Downing Caergrawnt o 1975-1991. Cymerodd “sidan” yn 1999, a cafodd ei benodi i’r Uchel Lys yn 2005, ac yna i Lys yr Apêl yn 2012. Wedi hynny, bu’n Gadeirydd Comisiwn y Gyfraith.
Yn ystod ei gyfnod yng Nghomisiwn y Gyfraith, cyhoeddodd adroddiad nodedig ar “Ffurf a hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru” (2017), adroddiad a fu’n sbardun i ymdrechion codeiddio a chydgrynhoad a ganlyn yng Nghymru. Yn 2017, cafodd ei apwyntio yn Ustus i Oruchaf Lys y DU, y cyntaf o Gymru i wneud hynny, gan ddwyn y teitl yr Arglwydd Lloyd-Jones.