Magwyd Edmund Davies yng Nghwm Cynon, lle mynychodd Ysgol Ramadeg Aberpennar. Cafodd ei alw i’r Bar yn 1929, wedi iddo astudio yng Ngholeg y Brenin, Llundain ac yna yn Rhydychen, wedi iddo ennill Ysgoloriaeth Vinerian.
Roedd yn dra gweithgar yng Nghymru, hyd nes ei benodi i’r Uchel Lys yn 1958 o ganlyniad i’w gyfnod fel Cofiadur Merthyr Tudful, Abertawe a Chaerdydd. Roedd yn un o Farnwyr mwyaf adnabyddus y 60au a’r 70au, a hynny yn rhannol oherwydd ei ran yn achos y Lladrad Trên Mawr yn 1963, ac yn ddiweddarach fel llywydd Tribiwnlys Aberfan. Penodwyd i’r Llys Apêl yn 1966, ac yna daeth yn Arglwydd Cyfraith yn 1974, gan ddwyn yr enw Yr Arglwydd Edmund-Davies o Aberpennar.
Yn ystod ei arglwyddiaeth, dewisodd yr arwyddair “Anela’n Uchel”, cysyniad a ddaeth ,yn ddiweddarach, yn sail i Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund-Davies. Bwriad yr Ymddiriedolaeth ydy i roi’r cyfle i bobl ifanc yng Nghymru (neu sydd â chysylltiad â Chymru) sydd â diddordeb ym myd y gyfraith, i allu dechrau ar yrfa cyfreithiol beth bynnag bo eu cefndir.