Daeth Elizabeth Andrews yn ynad yn 1920, un o’r menywod cyntaf yng Nghymru i wneud hynny (y cyntaf oedd y Fonesig Margaret Lloyd George GBE ar Noswyl Nadolig 1919).
Roedd yn awdurdod uchel ei pharch ar droseddau ieuenctid, a derbyniodd OBE yn 1948 am ei gwasanaethau fel ynad. Hithau hefyd oedd y fenyw gyntaf i drefnu’r Blaid Lafur yng Nghymru, gan gyfieithu taflenni o’r Saesneg i’r Gymraeg, gan annog merched i ddefnyddio eu pleidlais newydd.
Elizabeth Andrews oedd un o’r ffigyrau blaenllaw yn yr ymgyrch am gawodydd mewn pyllau glo, ac roedd yn un o’r tair menyw a gyflwynodd dystiolaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi gerbron Comisiwn Sankey ar y Diwydiant Glo yn 1918. Agorodd ysgol feithrin cyntaf Cymru yn y Rhondda yn 1938.