Ganed John Sankey yn Swydd Henffordd, a chafodd ei fagu yng Nghaerdydd. Cafodd ei alw i’r Bar gan Y Deml Ganol yn 1892 wedi iddo raddio o Goleg yr Iesu, Rhydychen.
Ar ddechrau ei yrfa, roedd yn weithgar ar Gylchdaith De Cymru gan arbenigo mewn iawndal gweithwyr, hyd nes iddo dderbyn Sidan – a oedd, bryd hynny, yn golygu symud i siambrau yn Llundain – yn 1909. Cafodd ei benodi i’r Uchel Lys yn 1914, lle bu’n arolygu achosion caethiwedigaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys achosion gweriniaethwyr Iwerddon a ddaliwyd ym Mrongoch, Sir Feirionnydd. Am y gwaith hwn derbyniodd ei GBE.
Er ei fod yn gwrthwynebu datgysylltiad yr Eglwys Gymreig, Sankey oedd un o brif ddraftwyr Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn 1917, sydd yn parhau i fod yn gyfredol hyd heddiw.
Yn 1919 roedd yn gadeirydd ar Gomisiwn y Diwydiant Glo, a chynhyrchodd adroddiad nodedig a awgrymodd wladoli’r diwydiant. Penodwyd Sankey i’r Llys Apêl yn 1928. Wedi i’r ail Lywodraeth Lafur gael ei ffurfio yn 1929, cafodd ei benodi’n Arglwydd Ganghellor, gan ddwyn y teitl Arglwydd Sankey o Moreton. Trwy gydol ei gyfnod o chwe blynedd ar y Sach Wlân (Woolsack), roedd yr Arglwydd Sankey yn arloeswr diwygio’r gyfraith, gan sefydlu Pwyllgor Adolygu’r Gyfraith parhaol, rhagflaenydd Comisiwn y Gyfraith heddiw.
Yn ystod ei ymddeoliad, defnyddiwyd ei enw yn Natganiad Hawliau Dyn Sankey, siarter a luniwyd yn 1940 gan bwyllgor roedd H G Wells yn aelod blaenllaw ac yn , a dilynwyd yn agos yn fuan wedyn yn lunio Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol yn 1948.