Ganed yr Arglwydd Thomas yn Nyffryn Tawe, yn fab i gyfreithiwr a weithiodd dan Is-siryf Sir Frycheiniog. Wedi gyrfa academaidd lewyrchus yng Nghaergrawnt a Chicago, cafodd yr Arglwydd Thomas ei alw i’r Bar gan Lety Gray, a bu’n gweithio o fewn y Bar masnachol yn Llundain. Daeth i’r amlwg yn gyhoeddus wedi iddo gael ei benodi’n ymchwilydd i’r Adran Fasnach a Diwydiant, oedd yn gyfrifol am archwilio i helyntion y papurau newydd y Mirror Group, a’i berchennog, Robert Maxwell.
Treuliodd gyfnod fel Cofiadur ar Gylchdaith Cymru a Chaer, yna cafodd ei benodi i’r Uchel Lys yn 1996, a bu’n Farnwr Llywyddol y Gylchdaith o 1998-2001. Yn ystod ei gyfnod fel Barnwr Llywyddol y Gylchdaith, bu’n weithgar â’r ymdrechion i sefydlu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ac roedd yn allweddol i gydlynu a lliwio ymateb y gymuned gyfreithiol Gymreig i’r newidiadau cyfansoddiadol oedd ar droed.
Cafodd ei benodi i’r Llys Apêl yn 2003, a bu’n Farnwr Llywyddol Arweiniol, a Dirprwy Lywydd Cyfiawnder Troseddol, cyn ei benodi’r Lywydd Mainc y Frenhines yn 2011. Yn 2013, cafodd ei benodi yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, a thrwy hynny ei wneud yn arglwydd am oes, gan ddwyn y teitl Arglwydd Thomas o Gwmgïedd. Yn 2017, derbyniodd yr Arglwydd Thomas y gwahoddiad gan Brif Weinidog Cymru, i gadeirio’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a chyhoeddwyd adroddiad eang o argymhellion y Comisiwn hwnnw yn 2019. Mae’r Arglwydd Thomas hefyd yn Ganghellor ar Brifysgol Aberystwyth.