Galwyd yr Arglwydd Atkin i’r Bar gan Lety Gray yn 1891 a datblygodd enw da o fewn y Bar Masnachol. Cafodd ei benodi i Fainc y Brenin yn 1913, a’i wneud yn Arglwydd Apêl yn 1919, a’n Arglwydd Cyfraith yn 1928.
Daeth yr Arglwydd Atkin yn adnabyddus yn sgil achos y “falwen yn y botel”, (Donoghue v Stevenson – 1932), achos sylfaenol Cyfraith Camwedd fodern. Roedd ei ddyfarniad anghydsyniol yn Liversidge v Anderson 1942 yn gefnogol o hawl y Llysoedd i adolygu gorchmynion gweinidogaethol a wnaethpwyd dan reoliadau cyfnod Rhyfel, ac arweiniodd y gâd i’r hyn sy’n cael ei ystyried yn adolygiad barnwrol safonol heddiw.
Ynghyd â F E Smith, chwaraeodd Atkin rhan flaenllaw yn ailsefydliad Llety Gray, Llety’r Llysoedd sydd a’r cysylltiadau cryfaf â Chymru ar ddiwedd yr 19g – 20g.