Ganed yn Sgiwen, Castell-nedd, yn fab i groser, cymhwysodd Samuel Evans fel cyfreithiwr. Cafodd ei ethol i’r Senedd yn 1890, cyn ei alw i’r Bar y flwyddyn ganlynol, a’i benodi’n Gyfreithiwr Cyffredinol yn 1908. Derbyniodd ei apwyntiad yn Llywydd Adran Profiant, Ysgar a’r Morlys yn 1910. Gwnaeth gyfraniad sylweddol i Gyfraith Morlys ac roedd hefyd yn Llywydd ar Lys Ysbail y Môr a sefydlwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Gwobr Syr Samuel Evans, a sefydlwyd yn ei gof drwy danysgrifiad cyhoeddus yn 1923, yn dal i gael ei dyfarnu am y radd cyfraith israddedig orau mewn Ysgol y Gyfraith Gymreig gan Gronfa Etifeddiaeth Y Werin a weinyddir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.