Ganed Samuel Griffith ym Merthyr Tudful, a bu’n driw i’w linach Gymreig ar hyd ei oes. Cyfunodd yrfa mewn gwleidyddiaeth a’r gyfraith. Roedd yn Dwrnai Cyffredinol a phennaf Queensland. Cafodd ei benodi yn Brif Ustus Queensland yn 1893, ac roedd yn gyfrifol am lunio Côd Droseddol Queensland. Lluniwyd sawl deddfwriaeth arall yn arddull y Côd mewn sawl talaith yn Awstralia a’r Gymanwlad, a daeth yr arddull i’w adnabod fel y côd “Griffith”.
Cymerodd Griffith ran allweddol yn llunio Cyfansoddiad Awstralia, a chafodd ei benodi yn Brif Ustus cyntaf Awstralia o 1903, hyd nes ei farwolaeth yn 1920.