Gwasanaethodd y Fonesig Sian Elias fel y 12fed Prif Ustus Seland Newydd. Ganed hi yn Llundain yn 1949 i fam o Gymry a thad Armeniaidd a symudodd i Auckland, Seland Newydd yn 1952. Mynychodd Sian Elias Brifysgolion Auckland a Stanford cyn ymuno â chwmni cyfraith yn Auckland ym 1972 cyn chael ei dderbyn yn Fargyfreithiwr a Chyfreithiwr.
Ar ôl gwasanaethu fel Comisiynydd y Gyfraith rhwng 1984 a 1988, gyda gyfrifoldeb am ddiwygio cyfraith cwmnïau, daeth Sian Elias yn un o'r ddwy fenyw gyntaf i gael ei phenodi'n Gwnsler y Frenhines yn Seland Newydd. Agwedd nodedig yn ymarfer cyfreithiol Sian Elias wrth y Bar ac yn ystod eu yrfa farnwrol fu ei gwaith mewn perthynas â hawliadau o dan delerau Cytuniad Waitangi (a lofnodwyd yn 1840 rhwng y Goron Brydeinig a’r phobl Maori).
Fe penodwyd Sian Elias i'r Uchel Lys yn 1995, a daeth yn Brif Ustus Seland Newydd yn 1999 a'r menyw gyntaf i gael ei phenodi felly, gan wasanaethu tan 2019. Yn 2004, disodlodd Seland Newydd y Cyfrin Gyngor yn Llundain fel y llys apêl terfynol gyda'i Goruchaf Lys ei hun gyda Sian Elias y llywydd cyntaf. Dychwelodd Sian Elias i'w gwreiddiau Cymreig pan oedd hi'n Ddarlithydd Hamlyn yn 2016 ac ymwelodd â Phrifysgol Caerdydd i gyflwyno'r cyntaf yn y gyfres o ddarlithoedd ar "Tegwch mewn Cyfiawnder Troseddol".