Ganed Tasker Watkins yn Nelson, Morgannwg. Roedd yn fab i ffitiwr injans, a chafodd ei addysgu yn yr Ysgol Ramadeg i Fechgyn, Pontypridd. Wedi hynny, aeth ymlaen i yrfa fasnachol yn Llundain cyn yr Ail Ryfel Byd. Ym Mis Awst 1944, tra bu’n gadlywydd yn y Gatrawd Gymreig, enillodd y Groes Fictoria (VC), am ei ddewrder ar y 16eg Awst, 1944 ger Falaise yn Normandi.
Wedi diwedd y rhyfel, astudiodd er mwyn cael ei alw i’r Bar, a chafodd ei dderbyn i’r Deml Fewnol yn 1948. Gweithiodd yn eang o fewn trosedd a gwaith sifil ar Gylchdaith Cymru a Chaer, ac roedd yn rhan flaenllaw o’r galw i amddiffyn annibyniaeth y gylchdaith yn yr 1960au. Fel cyfreithiwr, roedd yn eiriolwr darbwyllol yng ngŵydd ystod eang o dribiwnlysoedd, ac yn ei gyfnod ar y Fainc dangosodd anian farnwrol hynaws.
Wedi ei gyfnod fel Cofiadur Merthyr Tudful ac Abertawe, cafodd ei benodi i’r Uchel Lys yn 1971, Llys yr Apêl yn 1980 a bu’n Ddirprwy Brif Ustus dan yr Arglwydd Lane a’r Arglwydd Taylor. Cafodd ei benodi yn GBE yn 1990.
Roedd Watkins hefyd yn chwaraewr Rygbi, gan chwarae yn safle’r maswr i’r Fyddin, Cardiff RFC a’r Glamorgan Wanderers. Roedd yn Llywydd ar Undeb Rygbi Cymru o 1993 i 2004, gan oruchwylio trawsnewidiad y gêm o’i gwreiddiau amaturaidd i lwyfannau proffesiynol, gan ddyrchafu’r gêm o lefel Clwb i lefel rhanbarthol yng Nghymru.