Mae Cadeirydd Bwrdd Cymru’r Gyfraith, y Barnwr Milwyn Jarman CF, wedi ysgrifennu at Syr John Thomas i’w longyfarch ar ei apwyntiad yn Arglwydd Prif Ustus Cymru a Lloegr. Roedd Syr John, a gafodd ei fagu yng Nghwmgiedd yn Nghwm Tawe, yn Farnwr Arlywyddol Cymru rhwng 1998 a 2001, ac yn un o’r rhai a symbylodd sefydlu Cymru’r Gyfraith a chefnogodd cynnal Cynhadledd Cymru'r Gyfraith . Mae ef wedi mynychu’r Gynhadledd yn rheolaidd dros y blynyddoedd ac fe fydd Cynhadledd 2013 yn gyfle iddo siard i'r gynrychiolwyr am ei weledigaeth o rôl y farnwriaeth yn y Gymru fodern.