Mae Cymru’r Gyfraith estyn eu llongyfarchion i’r Fonesig Nicola Davies DBE ar ei hapwyntiad fel Yr Arglwyddes Ustus Apêl, y Gymraes gyntaf i’w phenodi.
Ganed yr Arglwyddes Ustus Nicola Davies yn Llanelli, a chafodd ei haddysg yn yr Ysgol Ramadeg i Ferched, Pen-y-bont ar Ogwr. Gweithiodd fel dadansoddwr cyllidol mewn cwmni o gyfreithiwr, cyn iddi gael ei galw i’r Bar gan Lety Gray.
Yn ystod ei chyfnod yn y Bar, arbenigodd Nicola Davies mewn cyfraith feddygol, gan ymddangos mewn sawl achos droseddol a sifil enwog, cyn iddi dderbyn “sidan”, a hithau ddim ond yn 39 mlwydd oed.
Cafodd ei phenodi i’r Uchel Lys yn 2010, a bu’n Farnwr Llywyddol ar Gylchdaith Cymru o 2014-2017. Cafodd ei phenodi yn Arglwydd Ustus yr Apêl yn y flwyddyn ganlynol.
Nicola Davies yw’r ddynes Gymraeg gyntaf i ddwyn y teitlau CF, Barnwr yr Uchel Lys, Barnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru ac Arglwydd Ustus yr Apêl.