Cymru’r Gyfraith yn croesawu sefydlu Cyngor y Gyfraith i Cymru
Mae cadeirydd Cymru’r Gyfraith, Huw Williams, yn croesawu sefydlu Cyngor y Gyfraith i Gymru a gynhaliodd gyfarfod cyntaf ei Bwyllgor Gwaith yn ddiweddar, ac yn esbonio sut y bydd Cymru’r Gyfraith yn ategu gwaith Cyngor y Gyfraith.
Cafodd y syniad o sefydliad i hyrwyddo astudio Cyfraith Cymru ei gyflwyno gyntaf gan yr Arglwydd Lloyd-Jones JSC yng Nghynhadledd Cymru'r Gyfraith a gynhaliwyd yn Abertawe yn 2017. Yn dilyn hynny, ymgynghorodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ar sefydlu Cyngor y Gyfraith i Gymru. Ymatebodd Cymru’r Gyfraith i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r cynnig ac yn nodi'r cyfraniad y gallai corff o'r fath, gyda chefnogaeth ysgrifenyddiaeth, ei wneud i ddatblygu polisi cyfreithiol ac addysg yng Nghymru.
Ychydig cyn Cynhadledd Cymru'r Gyfraith a gynhaliwyd ym Mhrifysgol De Cymru ym mis Hydref 2019, ac cyn cyhoeddi eu prif adroddiad, cyhoeddodd y Comisiwn Cyfiawnder eu hargymhelliad y dylid sefydlu Cyngor y Gyfraith i hyrwyddo buddiannau addysg gyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru, er mwyn sicrhau darpariaeth briodol o addysgu'r gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg, a chynorthwyo myfyrwyr yn eu haddysg a'u hyfforddiant fel ymarferwyr yn y dyfodol.
Ers cyhoeddi argymhelliad y Comisiwn yn 2019, mae Sefydliad Cymru'r Gyfraith wedi adolygu ei nodau i sicrhau eu bod yn ategu cenhadaeth Cyngor y Gyfraith. Yn y dyfodol, bydd Cymru’r Gyfraith yn canolbwyntio ar drefnu cynhadledd flynyddol Cymru'r Gyfraith, hyrwyddo mynediad i'r proffesiwn cyfreithiol drwy fentrau fel Cynllun Haf LEDLET-Cymru’r Gyfraith a thrwy drefnu a chefnogi digwyddiadau ad hoc fel Darlith Hamlyn a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Senedd.
Bydd cyfle i ddysgu am y cynnydd a wnaed gan Gyngor y Gyfraith yn ystod ei flwyddyn gyntaf yng Nghynhadledd Cymru'r Gyfraith 2021 a gynhelir ym mis Hydref.
Mae cyflwyniad Cymru Gyfreithiol i'r ymgynghoriad ar Gyngor y Gyfraith ac argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder i'w weld yn Geldards (Blank Document) (legalwales.org) a Law Council of Wales paper ENG_1.PDF