Eleni, digwyddodd y Gynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe, yn y Neuadd Fawr yng Nghampws y Bae ar y 15fed o Fedi 2017. Roedd y Neuadd Fawr yn leoliad delfrydol, gyda golygfeydd godidog o Fae Abertawe.
Roedd 171 o gynrychiolwyr yn y gynhadledd. Roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau llawn yn ogsytal a sesiynau wedi’w rhannu i dri grwp sef Addysg Gyfreithiol ac Ymarferiad, Cyfraith Cyhoeddus ac Hawliau Sifil a Chymdeithasol. Traddodwyd dau o’r pedwar sesiwn ar gyfraith Cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithad ar y pryd.
Yn ystod y torriad cinio, cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i sgwrsio’n anffurfiol gyda’r siaradwyr gwadd a’r gwesteion.
Daeth y gynhadledd i ben gyda derbyniad wedi’w gynnal gan Gymdeithas y Gyfraith . Noddwyd y digwyddiad gan Gymdeithas y Gyfraith, Cylchdaith CILEx Caer a Chymru, a Gwasg Prifysgol Cymru. Cafwyd adborth hynod gadarnhaol gan y gwesteion.