Mae Cymru’r Gyfraith wedi ymuno ag elusen Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol Llundain yr Arglwydd Edmund Davies (LEDLET), sydd wedi’i lleoli yn Llundain, mewn menter gyffroes wedi'i hanelu at ddisgyblion blwyddyn 12. Bydd hyd at 10 o ddisgyblion sy'n byw yng Nghymru (neu sydd â chysylltiadau cryf â Chymru) yn cael eu dewis ar gyfer wythnos o Gynllun Haf preswyl yng Nghaerdydd, sy'n cael ei gynnal rhwng 13eg - 17eg Gorffennaf 2020. Mae 10 o lefydd ychwanegol ar gael ar gyfer cynllun cyfatebol yn Llundain.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cysgodi cyfreithwyr, gweithredwyr cyfreithiol siartredig a bargyfreithwyr; arsylwi ar wrandawiad llys a chael cyfle i siarad â barnwr; a mynychu sgyrsiau a gweithdai ar astudio'r gyfraith, gyrfaoedd cyfreithiol a sgiliau cyfreithiol.
Bydd y cynllun yn gwbl rhad ac am ddim i'r myfyrwyr - bydd y gost o deithio i'r Cynllun ac oddi yno, a'r holl dreuliau yn ystod yr wythnos, yn cael ei dalu gan Gymru’r Gyfraith a LEDLET. Gallai grantiau hefyd fod ar gael ar gyfer costau ychwanegol megis dillad addas, neu gostau gofal perthynas sydd fel arfer yn cael gofal gan ymgeisydd llwyddiannus.
Nod y Cynllun yw rhoi cyfle i ddisgyblion blwyddyn 12 nad oes ganddynt y fath gyfleoedd fel arall. Felly bydd Cymru’r Gyfraith a LEDLET yn edrych yn gadarnhaol ar geisiadau gan ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim; sy'n dod o ardaloedd dan anfantais economaidd; sydd ag anabledd; sy'n "derbyn gofal" (mewn gofal); neu sy'n ofalwyr ar gyfer rhai eraill. Ond gall unrhyw un wneud cais os ydynt:
yn byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiadau cryf â Chymru
a fydd o dan 18 oed ar 13 Gorffennaf 2020
nad oes ganddynt gysylltiadau teuluol â'r proffesiwn cyfreithiol.
Bydd ceisiadau'n cau ar 14 Chwefror, felly brysiwch! Gwnewch gais ar gyfer cynlluniau Caerdydd a Llundain