Bwrdd Cymru’r Gyfraith yn ymateb i ymgynghoriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Ddiwygiadau Pellach i drefn Adolygiad Barnwrol
Mae’r Bwrdd wedi ymateb i awgrym y Weinyddiaeth Gyfiawnder y dylai heriau statudol a cheisiadau am adolygiad barnwrol ym maes Cynllunio Gwlad a Thref gael eu trosglwyddo o’r Llys Gweinyddol i Siambr y Tribiwnlys Uwch a fyddai’n arbenigo mewn achosion Cynllunio a Thir. Mae’r Bwrdd wedi pwysleisio:
- Na ddylid gwneud unrhyw beth a fyddai’n tanseilio hyfywdra’r Llys Gweinyddol yng Nghymru;
- Y dylai unrhyw newid yn y drefn bresennol gydnabod bodolaeth a thyfiant cyfraith gynllunio Gymreig;
- Bod trefniadau ar gyfer herio penderfyniadau cynllunio yng Nghymru tu fewn i gynhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac mai yng Nghymru y dylai penderfynu amdanynt gael eu gwneud.
Er mwyn darllen ymateb y Bwrdd yn llawn, cliciwch yma.