Nos Iau, 26 Mai, cynhaliwyd sgwrs bord gron gan Gymru’r Gyfraith ar y cyd gyda Gwasg Prifysgol Cymru er mwyn trafod dyfodol cyhoeddi cyfreithiol yng Nghymru. Roedd cynrychiolwyr o Fwrdd Cymru’r Gyfraith, y Wasg, Llywodraeth Cymru a’r proffesiynau yn bresennol. Mae’r Wasg, fel cyhoeddwyr academaidd gydag enw da ers amser am gyhoeddi gwaith ysgolheigaidd, yn hen gyfarwydd â chomisiynu a chynhyrchu llyfrau ar gyfer y farchnad addysg gan gynnwys teitlau ar hanes cyfraith Cymru.
Gan eu bod yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhwng hynny a chynhyrchu llenyddiaeth am farchnad broffesiynol, roedd gan y Wasg ddiddordeb i glywed am anghenion cymuned gyfreithiol Cymru yn sgil datganoli. Trafodwyd manteision neilltuol cynhyrchu testunau printiedig a thestunau ar-lein, heriau cynnal fersiynau wedi eu diweddaru o’r math lyfrau, a’r posibilrwydd o gynhyrchu cylchgrawn neu flwyddlyfr ar gyfraith Cymru. Cytunwyd gan bawb bod y drafodaeth wedi bod yn ddefnyddiol ac efallai ddylai fynd ymlaen drwy estyn y drafodaeth mewn sesiwn yn ystod Cynhadledd Cymru’r Gyfraith i grybwyll y syniadau’n bellach gyda chynulleidfa ehangach.
Mae manylion am deitlau cyfreithiol GPC i’w gweld ar wefan Gwasg Prifysgol Cymru