Mae Mick Antoniw AS wedi'i benodi yn Gwnsler Cyffredinol Cymru gan Ei Mawrhydi y Frenhines ar argymhelliad y Senedd a chafodd ei tyngu i mewn yn Llysoedd Barn Caerdydd ar 28 Mai 2021 gerbron Mr Ustus Picken, Barnwr Llywydd Cylchdaith Cymru.Mae'n olynu Jermey Miles a penodwyd yn Weinidog dros Addysg a'r Gymraeg. Mae Mick Antomiw eisoes wedi dal swydd fel Cwnsler Cyffredinol rhwng 2016 a 2017. Bu'n Aelod o'r Senedd dros Bontypridd ers 2011. Cyn iddo gael ei ethol i'r Senedd, roedd Mick Antoniw yn bartner yn cwmni Thompsons, cyfreithwyr arbenigol i'r undebau llafur, ble dechreuodd ei hyfforddiant yn 1980, gan arbenigo wedyn mewn cyfraith anafiadau personol. Mae Cadeirydd Cymru'r Gyfraith, Huw Williams wedi llongyfarch Mick Antoniw ar ei benodiad ac mae Pwyllgor Gwaith Cymru'r Gyfraith yn edrych ymlaen at gael cyfle i friffio'r Cwnsler Cyffredinol newydd ar weithgareddau a chynlluniau Cymru'r Gyfraith.