Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion a enillodd eu lle ar gwrs cyntaf Rhaglen Haf Mynediad i’r Gyfraith - Cymru’r Gyfraith, a gynhelir mewn partneriaeth â’r elusen o Lundain, Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund Davies (LEDLET)!
Cynhaliwyd y Rhaglen o’r 27ain – 31ain o Orffennaf 2020, ac o ganlyniad i COVID-19, cynhaliwyd y rhaglen am y tro cyntaf ar-lein. Cafodd 24 o ddisgyblion Blwyddyn 12 o bob cwr o Gymru y cyfle i gymryd rhan yng ngweithgarwch y Rhaglen Haf. Bwriad y Cynllun ydy i roi’r cyfle i bobl ifainc yng Nghymru (sydd heb gysylltiadau â’r byd cyfreithiol) i gael blas ar fyd y gyfraith, a’r hyder i ddechrau ar yrfa yn y gyfraith gan ddwyn ysbrydoliaeth o arwyddair yr Arglwydd Edmund Davies, “Anela’n Uchel”.
Roedd y Rhaglen yn un heriol, gyda 4-6 sesiwn y diwrnod, a chafwyd y cyfle i glywed gan aelodau’r farnwriaeth, bargyfreithwyr a chyfreithwyr, yn ogystal â gweithredwyr cyfreithiol siartredig. Roedd y siaradwyr yn dod o Gymru ac o Lundain, a chafwyd llu o sgyrsiau ar amryw o bynciau, o’u cefndir, i lwybr gyrfa, hyd at fywyd gwaith o ddydd i ddydd. Cafodd y myfyrwyr y cyfle i gwblhau tasgau ymarferol a gynlluniwyd i roi blas ar waith cyfreithiol megis cyflwyno achos o flaen barnwr ynglŷn â bechniaeth a dedfryd, a dysgu technegau dadansoddi deddfwriaeth. Cafwyd sesiynau gan Brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Rhydychen, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol y Gyfraith a Llety Gray ar faterion sydd o bwys i ddisgyblion Blwyddyn 12 megis ceisiadau prifysgol, dewis Prifysgolion, trosi gradd i radd gyfreithiol, cymwysterau ôl-raddedig, a sut i ariannu astudiaethau pellach. Roedd sesiwn hefyd am y llwybr CILEx i’r gyfraith, fel llwybr gwahanol i’r addysg Brifysgol draddodiadol.
Cafodd pob disgybl fentor unigol trwy gydol y Rhaglen, ac anogwyd y disgyblion i ystyried holl gynrychiolwyr Cymru’r Gyfraith a LEDLET fel mentorau ychwanegol. Yn ogystal â’r sawl fu’n llwyddiannus i gael lle ar y cwrs, rhoddwyd y cyfle i’r sawl nad oedd yn llwyddiannus i gysylltu â mentor hefyd.
Derbyniwyd gefnogaeth aruthrol gan uwch aelodau’r farnwriaeth, megis Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lloyd-Jones, Y Gwir Anrhydeddus Arglwyddes Ustus Nicola Davies, yr Anrhydeddus Mr Ustus Lewis (fel yr oedd bryd hynny), yr Anrhydeddus Mrs Ustus Jefford, HHJ Milwyn Jarman CF a HHJ Wendy Joseph, a rhoddodd yn hael o’u hamser i roi darlithoedd i’r disgyblion. Cafwyd gefnogaeth frwd hefyd gan y sbectrwm gwleidyddol, gyda’r Arglwydd Ganghellor y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland CF, a’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS yn cyfrannu at arlwy’r Rhaglen.
Hoffai Sefydliad Cymru’r Gyfraith gynnig eu diolch a’u gwerthfawrogiad i’r sawl sydd wedi rhoi yn hael o’u hamser i’r Rhaglen Haf eleni, ac i’w cwmnïau a siambrau. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a gynigiodd eu cefnogaeth hael, a hyderwn y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â chi ar weithgarwch mynediad i’r gyfraith Cymru’r Gyfraith yn y dyfodol.