Penodwyd yr Arglwydd (David) Wolfson o Dredegar CF yn weinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar 22 Rhagfyr 2020.
Bu David Wolfson yn ymarfer mewn cyfraith fasnachol, o Siambrau yn Un Llys Essex, Y Deml ac fe'i cyfarwyddwyd mewn llawer o'r prif anghydfodau bancio a masnachol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd ei ymarfer yn ymestyn dros ystod eang o gyfraith fasnachol, mewn ymgyfreitha a chyflafareddu rhyngwladol.
Dewisodd David tre Dredegar fel rhan ddaearyddol ei deitl gan fod ei neiniau a theidiau mawr yn byw yno pan fewnfudwyd i'r DU yn rhan olaf y 19eg ganrif.