DIWEDDARIAD CYNLLUN HAF YAGAED/LEDLET- CYMRU'R GYFRAITH 2021!
Ar Orffennaf 19eg fe fydd Cynllun Haf Mynediad i’r Gyfraith YAGAED/LEDLET – Cymru’r Gyfraith 2021 yn cael ei lansio. Dyma’r ail flwyddyn o gydweithio rhwng Cymru’r Gyfraith a YAGAED/LEDLET (Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund Davies / Lord Edmund-Davies Legal Education Trust) a’r 8fed mlynedd o gynnal y Cynllun Haf.
Gwelwyd cynnydd o 25% yn y nifer o geisiadau eleni, a dewiswyd 28 o ddisgyblion Blwyddyn 12 (Chweched Isaf) ar hyd a lled Cymru i gymryd rhan. Fe fydd y rhaglen, sy’n wythnos o hyd, yn digwydd ar-lein eto eleni yn sgil ansicrwydd sefyllfa gyfredol COVID – 19.
Bwriad y Cynllun ydy i roi blas ar fywyd cyfreithiwr i bobl ifanc o Gymru sydd heb gysylltiadau yn y sector cyfreithiol.
Mi fydd y Cynllun ar-lein yn cynnwys sgyrsiau, sesiwn panel cwestiwn ag ateb a gweithdai rhyngweithiol mewn sgiliau perthnasol megis eiriolaeth a deall deddfwriaeth. Mi fydd y Cynllun hefyd yn annog y bobl ifanc i ddilyn esiampl yr Arglwydd Edmund – Davies ei hun, a esgynnodd o’i wreiddiau gwylaidd yng Nghwm Cynon i fod yn Arglwydd y Gyfraith, gan ddefnyddio’r arwyddair “Anelu’n Uchel” – “Aim High” a hefyd i gredu bod gyrfa lwyddiannus yn y gyfraith yn agored i bawb, waeth be ydy eu cefndir.
Fel yr arfer, mae Rhaglen 2021 yn un cyffrous sydd wedi ei gefnogi gan sawl aelod nodedig l o’r proffesiwn cyfreithiol, gan gynnwys gwledd o siaradwyr megis yr Arglwydd Ganghellor (y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland CF AS ) , Cwnsler Cyffredinol Cymru (Mick Antoniw AS) a barnwyr o’r Goruchaf Lys a’r Llys Apêl. Mi fydd y bobl ifanc hefyd yn cael cyfle i glywed straeon gyrfa a mewnwelediadau proffesiynol gan gyfreithiwr, bargyfreithwyr, gweithredwyr cyfreithiol siartredig – gan amrywio o’r sawl sydd newydd gymhwyso, i’r sawl sy’n Gwnsleriaid y Frenhines neu’n bartneriaid o lu o wahanol feysydd ymarfer ac o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Mae Cymru’r Gyfraith a YAGAED yn hynod ddiolchgar i’r holl aelodau o’r farnwriaeth, siambrau bargyfreithwyr, cwmnïoedd cyfreithiol a bargyfreithwyr, cyfreithwyr a gweithredwyr cyfreithiol siartredig unigol sydd wedi rhoi yn hael o’u hamser i gefnogi’r Rhaglen eto eleni.